Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025
Pwynt Craffu Technegol 1: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt adrodd. Mae’r gwaith drafftio yn cyd-fynd â’r ieithwedd a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth bresennol, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Mae’r ddwy Ddeddf yn cyfeirio at ymgeiswyr unigol (“individual candidates”). Nid yw’r naill na’r llall yn darparu ar gyfer diffiniad pellach o ymgeisydd unigol. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod ystyr “unigolyn sy’n ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd” yn glir gan fod cysyniad pendant ymgeisydd rhestr plaid yn ei ddilyn.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y gall fod lle i egluro hyn ymhellach ac felly mae’n bwriadu gwneud diwygiad i’r perwyl hwn, ac er mwyn sicrhau cysondeb â’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau drafft.
Mae’r pwyllgor yn ymwybodol o’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio’r O.S. hwn, unwaith y bydd y Gorchymyn Cynnal Etholiadau wedi ei wneud, i groesgyfeirio at y Gorchymyn hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i achub ar y cyfle hwnnw i wneud y diwygiad hwn ar yr un pryd. Gwneir hynny cyn diwedd 2025. Ni fydd unrhyw effeithiau anfanteisiol o aros tan hynny i ddiwygio’r ddarpariaeth ddiffinio, gan y bydd y diwygiad yn cael ei wneud ymhell cyn etholiad 2026 a thra bo’r platfform gwybodaeth yn cael ei sefydlu.
Pwynt Craffu Technegol 2: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt adrodd. Fodd bynnag, mae’r gwaith drafftio yn adlewyrchu’r gwahanol systemau pleidleisio sydd ar waith ym mhob etholiad ac yn osgoi unrhyw ddryswch posibl rhyngddynt. Nid yw pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn ‘sefyll’ mewn etholiadau i brif gynghorau. Byddai cyhoeddi gwybodaeth am bleidiau gwleidyddol cofrestredig yng nghyd-destun etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru yn dod o dan reoliad 4(2)(b)(i) fel gwybodaeth am etholiad penodedig.
Pwynt Craffu Technegol 3: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt adrodd. Mae’r gwaith drafftio yn adlewyrchu gwelliant anllywodraethol a wnaed i Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (a oedd yn Fil ar y pryd) gan Rhys ab Owen, yn ystod Cyfnod 3 hynt y Bil hwnnw. Mae’r rheoliad yn cyfeirio at drefniadau hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio. Rhagwelir y gallai hyn gynnwys, er enghraifft, ddarparu rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn; dolenni sain; a chyfleusterau parcio a thoiledau i bobl anabl, yn hytrach nag offer i’w ddarparu i bleidleiswyr i’w cynorthwyo i fwrw pleidlais yn y bwth pleidleisio – ymdrinnir â’r trefniadau hygyrchedd hyn yn y Gorchymyn Cynnal Etholiadau drafft. Mae’r ddyletswydd y mae’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau drafft yn ei rhoi ar y Swyddog Canlyniadau yn ymwneud ag offer a ddarperir fel y gall pleidleiswyr bleidleisio’n annibynnol ac fel y gall cydymaith gynorthwyo.
Mae cynllun peilot, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi ei gynnal gyda’r Clwb Democratiaeth i ganfod pa mor ymarferol bosibl yw darparu gwybodaeth ar y platfform ynghylch trefniadau hygyrchedd yn yr orsaf bleidleisio. Bydd y gofyniad i gasglu a chyhoeddi’r wybodaeth hon yn cael ei gynnwys yn y fanyleb gaffael i drydydd parti greu ac adeiladu cyfleuster electronig.
Pwynt Craffu Technegol 4: Mae’r trefniadau ar gyfer anerchiadau etholiadol (ar gyfer etholiadau’r Senedd) yn defnyddio system sy’n bodoli eisoes ac sydd wedi ei sefydlu ers tro (cyfathrebiad post), y darperir ar ei chyfer yn y ddeddfwriaeth bresennol, sef Gorchymyn Cynnal Etholiadau 2007. Mae’r rheolau ar gynhyrchu cyfathrebiadau post hefyd wedi eu hamlinellu yn nhelerau ac amodau’r darparwr gwasanaeth cyffredinol, sef y Post Brenhinol ar hyn o bryd. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r dull sy’n ymyrryd leiaf yn hyn o beth, gan nad oedd o’r farn ei bod yn angenrheidiol nac yn gymesur ymyrryd ymhellach â’r fframwaith presennol.
Fodd bynnag, mae darparu datganiadau ymgeiswyr yn gysyniad newydd a sefydlir gan y Rheoliadau hyn, gan olygu bod angen gwneud darpariaethau mwy rhagnodol.
Mae’r Rheoliadau hyn, drwyddynt draw, yn gwahaniaethu rhwng etholiadau’r Senedd ac etholiadau cyffredin i brif gynghorau, a hynny er mwyn adlewyrchu’r gwahanol systemau etholiadol ac i warchod rhag dryswch.
Pwynt Craffu Technegol 5: Ystyriodd Llywodraeth Cymru ragnodi dyddiad cau at y dibenion hyn. Fodd bynnag, bydd y dyddiad erbyn pryd y bydd angen cyflwyno datganiadau ymgeiswyr/anerchiadau etholiadol i’r Bwrdd Rheoli Etholiadol (BRhE) yn dibynnu ar ddyluniad y system (sydd eto i’w benderfynu), a chapasiti’r BRhE i weinyddu’r broses. Felly, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylid gadael dyddiad o’r fath i ddisgresiwn gweithredwr y platfform (y BRhE) ar gyfer pob etholiad penodedig. Fodd bynnag, rhaid cynnwys y dyddiad hwnnw yn yr hysbysiad o’r broses gyflwyno.